Mae gan Sir Gaerfyrddin Fforwm Trais yn y Cartref, sy'n gyfuniad o asiantaethau lleol sydd â gwahanol wasanaethau er gael.
Fforwm Trais yn y Cartref Sir Gaerfyrddin
Mae gennym wahanol fathau o offer diogelwch; ffonau symudol a larymau y gallwn eu gosod yn eich cartref i'ch helpu chi i deimlo'n ddiogel. Gallwn hefyd ddod i’ch cartref a gwella diogelwch drwy newid cloeon, ychwanegu byllt neu cadwynau i’ch drysau a ffenestri am ddim.
Mae ein DVD ‘Stori Gariad’ am hanes dau berson ifanc mewn perthynas dreisgar. Mae hwn yn helpu pobl i ddeall y dylai perthynas fod yn onest, yn gyfartal ac yn ddi-drais. Mae’n cyd-fynd a’n Rhaglenni Ysgolion a elwir ‘Perthnasau Diogel’ i Ysgolion Uwchradd a ‘Bydd yn Ddiogel’ i Ysgolion Cynradd.
Mae gennym daflenni yn llawn gwybodaeth a llinellau cymorth ar gyfer dioddefwyr sy'n ddynion neu'n fenywod, galwch os ydych eisiau trafod unrhyw fater.
We have leaflets with information and help lines for male and female victims.
Ffoniwch: 0808 801 0800
Cymorth i Fenywod.
Mae yna dri lloches ar draws Sir Gaerfyrddin, ac maen nhw'n ddiogel, yn gynnes ac yn groesawgar ac mae yna weithwyr plant sy'n cynnig cymorth i bobl ifainc.
Gwasanaethau eraill sydd ar gael – ailsetlo a gofal ddilynol fel; Cwnsela, Estyn Allan a Chymorth Ysbeidiol.
Mae ganddyn nhw Ganolfan Wybodaeth Gymunedol yn Llanelli, Caerfyrddin a Rhydaman.
www.womensaid.co.uk
Rhif Ffôn: 01554 741212, 01267 234725, 01269 597474
Yr Heddlu.
Maen nhw wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth gofalgar a phroffesiynol i ddioddefwyr trais yn y cartref. Mae gan yr Heddlu bolisi arestio positif i gadw dioddefwyr yn ddiogel.
.
www.dyfed.powys.police.co.uk
Ffôn: 999 mewn argyfwng neu 0845 330 2000
Gwasanaethau Cymdeithasol. 
Mae ganddyn nhw bobl wedi'u hyfforddi i weithio gyda theuluoedd a phobl ifainc ar wahanol fathau o faterion a phroblemau.
Os ydych chi mewn perygl, cysylltwch â'r Gweithiwr Cymdeithasol sydd ar Ddyletswydd yn y Tîm Asesu.
Rhif Ffôn: 01267 222288,
Y Gwasanaeth Iechyd. Ymddiriedolaethau GIG.
Mae yna Nyrsys Arbennig yn yr Adran Damweiniau ac Achosion brys yn Ysbyty Tywysog Phillip yn Llanelli ac Ysbyty Cyffredinol Gorllewin Cymru yng Nghaerfyrddin ac maen nhw'n gallu helpu gyda phroblemau trais yn y cartref neu yn gallu eich cyfeirio chi at rywun a fydd yn gallu ac fe fyddan nhw'n parchu eich preifatrwydd ac yn eich diogelu.
Ffôn: 01554 783237 01267 227006
Tai- Hafan.
Cymdeithas dai sy'n darparu tai a chymorth ar gyfer menywod a phlant bregus, gan gynnwys y rheiny sydd wedi dioddef trais. Mae ganddyn nhw brosiect hefyd ar gyfer menywod ifainc rhwng 16 a 21 oed.
www.tai-hafan.co.uk
Rhif Ffôn: 01267 225533
Prism.
Maen nhw'n gallu cynnig gwasanaethau cwnsela a gwybodaeth ar gyfer problemau yn ymwneud â chyffuriau ac alcohol.
Rhif Ffôn: 01267 231634, 01554 741636
Gwasanaeth Erlyn y Goron.
Mae ganddyn nhw gyfreithiwr wedi'i hyfforddi sydd hefyd yn Gydlynydd Trais yn y Cartref ar gyfer yr asiantaeth hon. Maen nhw'n credu'n gryf mewn erlyn effeithiol ar gyfer dioddefwyr Trais yn y Cartref. Gall ei canlfan tysion acre cynnig cymorth yn ogystal.
Rhif Ffôn: 01267 242100
Gwasanaeth Prawf Dyfed Powys.
Mae’r gwasanaeth prawf yn rhedeg rhaglenni ar gyfer troseddwyr gyda Gweithwyr Diogelwch Menywod. Mae’n rhaid bod y troseddwr wedi ei ddedfrydu i leiafswm o 12 mis o garchar.
Rhif Ffôn: 01267 244619.
Cyngor Sir Gâr
Mae'n gweithio'n agos gydag asiantaethau ac mae ganddo wasanaethau fel Tai a Diogelwch Cymunedol.
www.sigar.gov.uk
Rhif Ffôn: 01267 234567
Cymorth i Ddioddefwyr a Chymorth i Dystion
Mae cymorth ar gael i fynychu gwrandawiadau Llys.
Mae'r gwasanaeth 24 awr yn gyfrinachol ac yn rhad ac am ddim.
Rhif Ffôn: 01267 220230, 01437 563337, 0845 3030900 |