James & Jade
Roedd dad wastad mewn hwyliau gwael pan ddeuai adref o’r gwaith. Byddai’n gweiddi arnom ni ac yna’n gweiddi ar mam i’n cadw’n dawel a’n hanfon i’n stafell wely. Os byddai mam yn anghytuno ag e ac yn dweud ein bod yn gwylio’r teledu neu rywbeth, byddai’n mynd yn grac iawn ac yn bygwth rhoi crasfa go iawn i ni. Un tro, pan rhoddodd grasfa i ni, ceisiodd mam i’w stopio a dywedodd dad mai ei bai hi oedd e a rhoddodd wad iddi hi hefyd. Dydy dad ddim yn byw gyda ni nawr. Rydyn yn dal i weld dad ar y penwythnos a dydy e ddim yn ein gorfodi i fod yn dawel mwyach.
Carys
Ambell waith, os na fyddai swper yn barod pan ddeuai dad adre o’r gwaith, byddai’n mynd yn grac iawn ac yn gweiddi a bwrw mam. Ambell waith byddai’n bwrw fi hefyd ac yn torri fy ngheganau. Gallai unrhyw beth yn ei wneud yn grac. Byddai’n dweud sori ac addo peidio â gwneud pethau felly eto, ond doedd e ddim yn cadw at ei air. Roeddwn yn ei ofni’n fawr iawn pan oedd e’n grac ac er na ddywedodd mam ddim byd, roeddwn yn gallu dweud bod ofn arni hi hefyd. Un diwrnod, gadawodd mam a fi a mynd i aros mewn Lloches Cymorth i Ferched. Mae ty newydd gyda ni nawr ac mae pethe llawer gwell. Does dim ofn ar mam a fi mwyach.
Michael
Un noson ceson ein dihuno gan swn sgrechian, gweiddi a phethau’n cael eu chwalu lawr llawr. Roedd dad wedi dod adre’n feddw eto. Roedd y trais yn waeth pan oedd e’n feddw. Roedd wedi taro mam yn ei hwyneb a roedd ei thrwyn hi’n gwaedu ac roedd y celfi wedi’u chwalu. Ffoniodd ein cymdogion yr heddlu a daethon nhw a mynd â dad i ffwrdd. Mae mam llawer hapusach nawr ac rydym yn cael hwyl gyda’n gilydd.
Chelsea
Pan oedd dad yn byw gyda ni, fydden i byth yn gofyn i ffrindiau ddod i aros a phan fydde nhw’n mofyn dod nôl i ty ni, byddwn yn dweud celwydd a chwilio esgusodion. Roedd ofn arna i y byddai dad yn dechrau gweiddi a galw enwau ar mam a doeddwn i ddim am i’m ffrindiau wybod beth oedd yn mynd ymlaen. Roedd cywilydd arna i. Ond aeth mam i gael help a nawr mae fy ffrindiau yn gallu galw mewn a hongian rownd yn ty ni.
Louise and Oliver
Un dydd daeth fy modryb i ty ni. Roedd yn grac iawn am fod dad yn gas i mam a phan ddywedodd hi wrtho fe, aeth yn wallgo a dechrau ei llusgo o amgylch yr ystafell. Roedd mam yn sgrechian. Roedd fy mrawd a mi wedi cael ofn ac yn llefain. Rhuthrodd dad lawr llawr mewn tymer. Roeddem wedi gweld dad yn bwrw mam o’r blaen ond byth neb arall. Cafodd mam ofn ofnadwy ac roedd yn becso bod dad yn mynd i’w bwrw hi hefyd. Helpodd fy modryb ni i ffeindio rhywle diogel i aros. |