HomeslashQuestions AnswersslashIdeas AdviceslashPolicyslashPolicy Page
events
cymraeg slash english
 
topleftgraphic   toprightgraphic
A Love Story

bubbl1Tom

Pan oeddwn yn y chweched dosbarth ro’dd wejen gyda fi o’r enw Kate, ro’dd hi ym mlwyddyn 11. Roedd Kate am ddechrau caru’n dynn yn syth. O fewn ychydig wythnosau, dechreuodd fynd i hwyliau gwael bob tro ro’n i am hala ychydig amser gyda fy mêts. Ro’dd hynny’n achosi llwyth o gwympo mâs. Ceisiodd Kate fy nhroi yn erbyn fy ffrindiau trwy ddweud taw twpsod o’n nhw a galw enwau cas arnyn nhw. Dywedodd hi hefyd bod dim eisiau nhw arna i nawr achos bod hi gyda fi. Er bo’ fi eisiau hongian rownd gyda fy ffrindiau, roeddwn yn hala’r rhan fwyaf o’r amser gyda Kate. Ro’n i’n teimlo’n anghysurus ac yn nerfus iawn am bopeth ro’n i’n dweud wrthi rhag ofn y byddai’n colli’i thymer, mynd i hwyliau a difrïo fy ffrindiau. Ro’dd hynny’n gwneud i fi deimlo’n rili euog. Ro’n ni wedi bod yn mynd mâs gyda’n gilydd am tua 3 mis pan benderfynais fynd gyda fy ffrindiau i weld band. Do’n i ddim wedi hala llawer amser gyda nhw a ro’n i’n gweld eisiau’u cwmni nhw. Aeth Kate yn benwan grac, sgrechain arna’ i, galw enwau arna’ i a’m ffrindiau - ro’n i’n teimlo’n ofnadwy. Cwpwl o wythnosau wedyn, daeth rhywun i’r ysgol i siarad â ni am gam-drin domestig a sylweddolais taw dyna beth oedd yn digwydd i fi. Gorffennais gyda Kate yr wythnos honno achos gwnes i sylweddoli ei bod yn ceisio rheoli fy mywyd a dweud pwy ro’n i’n gallu eu gweld. Ar hyn o bryd, rwy’n hapus jest yn hongian rownd gyda fy ffrindiau.

Cbubble2hantelle

Ro’n i wedi bod yn mynd mâs gyda Jack ers tipyn bach. Ro’n ni’n mynd rownd mewn grŵp mawr o ffrindiau. Ro’n ni’n dod ‘mlaen yn iawn ond ro’dd Jack wastad yn od ambwytu fi’n siarad â bechgyn eraill. Roedd hyn wedi achosi cwmpo mâs yn y gorffennol. Yna dechreuodd bachgen newydd yn yr ysgol - Dan - a ymunodd e’ â’n grŵp ni. Ro’n i’n dod ymlaen yn rili dda gyda Dan. Ond do’dd Jack ddim yn hoffi bo fi’n siarad â Dan ac roedd e’ wastad yn pigo arna i, gweiddi a bod yn gas wrtha i. Ro’n i’n teimlo’n rili drist ac ro’dd e’n gwneud i fi lefain. Byddai Jack yn dweud sori ac yn addo peidio gwneud yr un peth ‘to, ond wedyn bydde fe’n beio fi ac yn dweud na fydde fe ddim yn mynd yn grac oni bai bo fi’n gadael bechgyn eraill i siarad â fi. Amser egwyl yn yr ysgol un dydd, gwelodd Jack fi a Dan gyda’n gilydd - dim ond siarad o’n ni. Galwodd fi draw ato fe a dechrau colli’i dymer â fi. Cydiodd Jack yn gas yno fi a hwpo fi yn erbyn y wal a bwrais fy mhen. Dywedodd Jack taw fy mai oedd e’ i gyd. Ro’dd ofn Jack arna i wedi hynny felly gorffennais gyda fe. Ond dechreuais fynd mâs gyda fe eto ac ro’dd pethe’n iawn am dipyn bach, ond wedyn, dechreuodd pethe waethygu’n raddol. Ro’dd e’n cydio’n gas ynof i yn eithaf aml ac ro’dd ofn arna i drwy’r amser. Cwpwl o wythnosau wedi hynny, gorffennais gyda fe am byth. Mae wejen newydd gyda Jack nawr ac rwy wedi’i weld e’n cydio’n gas ynddi hi hefyd, felly dydy e ddim wedi newid.

bubble3Rhian

Ro’dd Mam wastad yn grac, yn enwedig gyda Dad - yn gweiddi arno, ei fychanu, a dweud ei fod yn dda i ddim. Ro’dd e’n arfer edrych mor drist. Un diwrnod, gwelais Mam yn bwrw Dad. Do’n i ddim wedi ei gweld hi’n gwneud ‘na o’r blaen. Ro’dd Dad yn llefain a ro’n i’n gallu gweld bod cywilydd arno fe. Ro’n i’n poeni’n ofnadwy ac es i’r gwely’n llefain. Dywedais wrth fy ffrind beth oedd yn digwydd gartref. Dywedodd hi wrtha i am ddweud wrth oedolyn - rhywun ro’n i’n gallu trystio. Da’th fy ffrind gyda fi i siarad ag un o’r athrawon yn yr ysgol, a ches i wybodaeth ganddi i basio ‘mlaen i Dad. Perswadiais Dad i fynd am gyngor, ac aeth mam i gael help hefyd. Mae pethe lot yn well nawr.

bubble4Josh & Lucy

Ro’dd y cwmpo mâs a’r ymladd yn digwydd ar ôl i ni fynd i’r gwely. Bydden ni’n clywed gweiddi, sgrechian a llefain. Ro’n i’n gwybod yn iawn beth oedd yn digwydd a bydden ni’n gorwedd yn ein gwelyau, yn teimlo'n rili ofnus. Y diwrnod wedyn, bydde llygaid mam wedi chwyddo achos llefain ac ambell waith bydde cleisiau ar ei hwyneb. Cwpwl o weithiau roedd ganddi lygaid duon, a’r tro diwethaf, ro’dd ei braich hi mewn plaster achos bod hi wedi torri’i harddwrn. Pan ofynnon ni beth oedd wedi digwydd, dywedodd hi fod hi wedi cwympo. Do’n ni ddim yn ei chredu hi achos bo’ ni wedi clywed Dad yn gweiddi a Mam yn sgrechian yn noson cyn hynny. Do’n ni ddim yn gwybod beth i wneud. Do’dd Mam ddim yn fodlon siarad am beth oedd yn digwydd a do’n ni ddim yn gallu siarad â Dad. Doedd neb yn dweud dim. Un diwrnod, clywais am rif ffôn arbennig lle gallwch chi gael help. Rhoddodd y person ar y ffôn gyngor i ni a helpodd e’ ni i siarad â Mam fel bo hi’n mynd i gael help. Dydyn ni ddim yn byw gyda Dad mwy. Rydyn ni’n hapus nawr a does dim ofn arnon ni.

Cliciwch yma i weld mwy o astudiaethau achos

 
bottomleft bottomright
 
bottomleftmain     bottomrightmain
spacer
Home :: C&A :: Syniadau & Cyngor :: Tudalen Polisi :: Sir Benfro :: Sir Gaerfyrddin :: Ceredigion :: Powys
Copyright 2004 Dyfed Powys Regional Domestic Abuse Forum