Fforwm Cam-drin Domestig Ceredigion - 01545 571408 Fforwm Cam-drin Domestig Ceredigion – grwp o bobl o amryw o asiantaethau statudol a gwirfoddol sy’n gweithio gydag oedolion a phlant sydd wedi dioddef camdriniaeth yn ogystal â’r rheiny sy’n gyfrifol am y fath gamdriniaeth. Mae’r Fforwm wedi ymrwymo i weithio er mwyn galluogi pobl i fyw eu bywydau yn rhydd o drais a chamdriniaeth.
Amcanion y Fforwm yw lleihau nifer yr achosion o drais domestig, adnabod ffyrdd o’i atal a sicrhau gwell gwybodaeth am y pwnc trwy addysgu a hyfforddi plant, pobl ifanc ac oedolion.
Cymorth i Ferched
Mae gan Gymorth i Ferched 2 grwp yng Ngheredigion. Gall Cymorth i Ferched roi cymorth a gwybodaeth i ferched a phlant sy’n cael eu heffeithio gan drais domestig. Mae ganddynt hefyd dai diogel a elwir yn llochesau. Mae dau o’r llochesau hyn yng Ngheredigion ac maent yn fannau diogel lle y gall menywod, plant a phobl ifanc aros.
Cymorth i Ferched Aberystwyth 01970 625585
Cymorth i Ferched Aberteifi 01239 615385
Mar gan Fforwm Cam-drin Domestig Ceredigion amryw o adnoddau i'w helpu i godi ymwybyddiaeth am gam-drin yn y cartref, gan gynnwys cardiau gwybodaeth, taflenni, baneri hysbysebu, bandiau arddwrn porffor ag arnynt gyfeiriad in gwefan, matiau llygoden, pannau a phensiliau. Mae gennym hefyd offer diogelwch a chysylltiadau a Chynllun Fan Bobby, a all eich helpu i deimlo'n fwy diogel yn eich cartref
Rhoddwyd Hyfforddiant am Drais Domestig i:
Wirfoddolwyr, Gweithwyr Cymdeithasol, Bydwragedd, Ymwelwyr Iechyd, Nyrsys Ysgol, Cydlynwyr Anghenion Addysgol Arbennig, Gweithwyr Gofal, Athrawon a Gweithwyr Cymorth, Police, Teachers and staff working in the Housing/Homelessness and Substance Misuse agencies .
Mae gwaith yr uchod o bryd i’w gilydd yn dod â nhw i gysylltiad â phobl sydd wedi dioddef trais domestig.
Mae cannoedd o blant a phobl ifanc ar hyd a lled Ceredigion wedi cymryd rhan mewn Sesiynau Codi Ymwybyddiaeth am Gam-drin Domestig. Trefnwyd y sesiynau hyn, a gyflwynwyd fel rhan o wersi ABCh yn ysgolion uwchradd y sir, gan Fforwm Cam-drin Domestig Ceredigion ar y cyd a Chymdeithas Tai Hafan.
Rhifau Ffôn Lleol
Heddlu
Uned Trais Domestig 0845 330 2000
SUDDS (Gwasanaeth Alcohol a Chyffuriau i rai dan 18) 01570 422344
Sefydliadau Ieuenctid
Ardal 43 01239 614566
(Lle galw heibio i bobl ifanc 16-25 oed)
Canolfan Galw Heibio Aberaeron 01545 571572
(I bobl ifanc 14-19 oed)
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am wasanaethau Ieuenctid yng Ngheredigion,Cysylltwch â Chydlynydd Trais Domestig Ceredigion.
Llinellau Cymorth Cenedlaethol
Llinell Gymorth Trais Domestig Cymru 0808 8010800
Childline 0800 1111
Llinell Gymorth Straen yng Nghefn Gwlad Cymru (14-24 oed)0800 0858119
CONNECT 141-121-Cymru 0800 141 121 Dyn Cymru Helpline 0808 801 0321
(I ddynion sy’n dioddef trais yn y cartref)
Canolfan Argyfwng Teulu Sir Drefaldwyn (CAT Sir Drefaldwyn)
MEDA – Cymorth i Ddynion sy’n Dioddef Trais Domestig Llinell Gymorth 24awr 01686 629114
(Mae CAT Sir Drefaldwyn hefyd yn rhedeg rhaglen i gamdrinwyr)
|