Beth yw camdriniaeth yn y cartref?
Fel arfer tad, llysdad
neu gariad yn brifo
mam neu llysfam.
Mae’n golygu un person
yn ceisio cael pw^ er dros
rhywun arall. Efallai
bod ti a dy frodyr a
chwiorydd yn cael eu
brifo hefyd. Weithiau
mae’n golygu dynes yn
brifo dyn.
Mae llawer o ffyrdd sut
gall rhywun gael eu
brifo.
Emosiynol
Mae hyn yn cynnwys rhywun yn
gwneud hwyl am dy ben neu’n
dweud nad wyt ti’n bwysig neu
mai dy fai di ydi o; bygwth brifo
neu lladd ti, aelod o dy deulu neu
anifail anwes; bygwth dy ddanfon
di i ffwrdd neu dy daflu di allan.
Corfforol
Mae hyn yn cynnwys cael dy
gicio, dy wthio, dy guro neu dy
daro.
Camdriniaeth
rhywiol
Mae hyn yn cynnwys cael dy
gyffwrdd mewn ffordd dwyt ti
ddim yn licio, cael dy orfodi i gael
rhyw, dy orfodi i edrych ar luniau
rhywiol neu wylio fideo neu
unrhywbeth arall sy’n dy wneud
di deimlo’n anghyfforddus.
Beth yw’r
effeithiau
arna ti?
Unai os wyt ti wedi ei weld, ei
glywed neu wedi cael dy frifo,
mi FYDD y camdriniaeth yn cael
effaith arna ti.
Efallai dy fod:
• yn cael cur yn y pen
• yn drist
• ddim yn bwyta
• yn nerfus
• yn bwyta i deimlo’n well
• ofn
• yn gwlychu’r gwely
• methu canolbwyntio yn yr ysgol
• yn meddwi neu’n cymryd
cyffuriau
• yn ysmygu
NID dy fai di yw hyn
Sut wyt ti’n delio ag o?
‘Does ‘na neb yn sylwi arna fi os nad ydw i’n achosi trwbl. Dwi wedi bwlio plant
eraill. Er bod cymryd cyffuriau neu yfed alcohol dan 18 oed yn erbyn y gyfraith,
dwi wedi trio nhw i anghofio am bethau. Ond dydi o ddim yn newid be sy’n
digwydd gartref’.
DY HAWLIAU
• Mae gen i’r hawl i fod yn fi
• Mae gen i’r hawl i beidio cael fy mrifo
• Mae gen i’r hawl i rhywun fy ngharu a gofalu amdanaf
• Mae gen i’r hawl i fod yn flin, ond ddim i frifo pobl eraill
• Mae gen i’r hawl i fy marn fy hun, i’w fynegi ac i bobl fy nghymryd o ddifri
• Mae gen i’r hawl i newid fy meddwl
• Mae gen i’r hawl i ddeud NA
• Mae gen i’r hawl i reoli fy mywyd fy hun ac i fyw mewn cymuned rhydd a didrais
Mae gynno ti’r hawliau hyn i gyd, ond gall dy ymddygiad effeithio ar hawliau pobl
eraill. Dydi hyn ddim yn gyfeillgar iawn ac mae’n cael ei alw’n ymddygiad gwrth
gymdeithasol.
Ydi hyn yn swnio’n gyfarwydd?

Wyt ti’n beio dy hun am be
sy’n digwydd gartref?
Dw’i ofn deud wrth unrhywun oherwydd
dwi’n meddwl mai fy mai i ydi o ac mi
fydda i mewn trwbl neu mi ga i fy mrifo.
Wyt ti’n cadw draw o dy
gartref?
Dwi’n mynd i dre neu ‘n ceisio aros ar ôl
yr ysgol i gadw allan o’r ffordd.
Sut wyt ti’n delio hefo fo?
Does neb yn sylwi arna fi os na dwi’n
achosi trwbwl. Dwi wedi bwlio plant
eraill a hyd yn oed wedi defnyddio
alcohol a chyffuriau i foddi’r teimladau.
Tydi o ddim yn newid beth sy’n digwydd
gartref.
Beth fedri di wneud?
Mae yna llawer o wahanol bobl sydd
eisiau dy helpu di. Does ddim rhaid i ti
ddelio hefo hyn ar ben dy hun os wyt ti’n
teimlo’n flin, yn euog, ofn neu’n poeni.
Hefo pwy fedra i siarad?
Cymorth i Ferched Rhyl
01745 337104
Cymorth I Ferched Glyndwr
01745 814494
Llinell Gymorth Camdriniaeth yn y Cartref Cymru
0808 8010 800
Prosiect Pobl Ifanc Gorllewin Y Rhyl
01745 351293
NSPCC Cymru Llinell Gymorth
0800 100 2524
Childline Cymru Llinell Gymorth
0800 1111
Heddlu
999
Gwasanaeth Camddefnyddio Sylweddau Pobl Ifanc
01492 536079
|