|
Os wyt ti'n 'nabod rhywun sy'n dioddef mewn perthynas dreisgar
Mae yna 3 cam pwysig:
- Cydnabod bod y trais yn digwydd – mae hyn yn anghywir mewn unrhyw fath o berthynas
- Derbynia NAD ydyw'r dioddefwr ar fai
- Chwilia am help, cyngor a chefnogaeth.
Cyngor gan bobl ifanc i bobl ifanc
- Arhosa allan o'r ffordd, paid cael dy ddal yn y cweryla
- Meddylia beth sy'n digwydd, bydd yn bwyllog
- Os yn bosib, ysgrifenna sut wyt ti'n teimlo
- Cadw gyda dy frodyr a chwiorydd
- Paid gadael iddo gymryd dy fywyd drosto
- Bydd yn ddewr
- Bydd yn bwyllog
- Cymera gysur gan Mam-gu neu frodyr a chwiorydd
- Dweda wrth oedolyn
Pan fydd rhywun yn ymosod arnoch yn eich cartref neu pan fyddwch yn gweld rhywun yn ymosod ar eich rhiant, maen bosib y byddwch yn teimlo’r canlynol:
- Ofn
- Yn grac neu’n ddug
- Cywilydd
- Methu canolbwyntio
- Yn dawel ac yn mynd i’ch cragen
- Mewn penbleth
- Methu cysgu na bwyta
- Cael ofn yn rhwydd, teimlo’n nerfus ac ar ar bigau'r drain
Mae pob math o gam-drin yn deillio o awydd y gael pwer a rheolaeth dros berson arall
NID bod yn feddw, cyffuriau neu bwysedd sy'n achosi Trais
Mae yna nifer o wahanol asiantaethau sy'n gallu cynnig help, cefnogaeth neu gyngor.
Os wyt ti'n poeni am yr hyn sy'n digwydd gartref, 
Plîs, siarada â rhywun –
- Athro/athrawes yr wyt yn ymddiried ynddo/i
- Nyrs yr Ysgol
- Nyrsys Ieuenctid
- Perthynas agos
- Gweithiwr Cymdeithasol (os oes un gennyt)
- Neu ffonia'r Linell Gymorth
- Mewn argyfwng ffonia'r Heddlu ar 999
|
|