|
Mae Trais yn y Cartref yn gallu bod yn:
- Gorfforol – taro, slapio, dyrnu neu gicio.
- Emosiynol a Seicolegol – Galw enwau cas, gweiddi, dweud dy fod yn dwp, yn salw neu'n ddrwg. Dy gloi di yn dy ystafell wely, gwneud addewidion a'u torri nhw'n fwriadol. Peidio â gadael i ti gael bwyd neu ddiod neu fynd i'r ty bach pan fyddi di angen. Rhywun yn dweud y bydd yn dy frifo di.
- Bygwth ac ynysu – gwrthod gadael ffrindiau a theulu i ddod i’r ty
- Ariannol – Cynnig arian i ti wneud pethau sy'n anghywir yn dy farn di, cymryd arian oddi wrthyt.
- Rhywiol – Cyffwrdd â ti lle nad wyt ti am gael dy gyffwrdd.
 Fe allai'r person sy'n gyfrifol am y trais fod yn rhiant, plentyn arall neu aelod arall o'r teulu.
Mae trais yn y cartref yn gallu digwydd i deuluoedd o unrhyw le ac o unrhyw gefndir mewn bywyd.
Paid â theimlo cywilydd os oes trais yn digwydd yn dy gartref di.
- NID ti sydd ar fai,
- NID y dioddefwr sydd ar fai.
Mae unrhyw fath o drais yn ymwneud â chael pwer a rheolaeth dros berson arall. |
|