HomeslashQuestions AnswersslashIdeas AdviceslashPolicyslashPolicy Page
events
cymraeg slash english

 
topleftgraphic   toprightgraphic
Pembrokeshire Domestic Abuse Forum  

bubbleMae Fforwm Trais yn y Cartref Sir Benfro yn grwp aml asiantaeth sy'n cydweithio i helpu dod o hyd i ddioddefwr trais yn y cartref a'u plant.

Yn aml, mae trais yn y cartref yn rhywbeth sy'n cael ei gadw'n gyfrinach o fewn y cartref ac mae bob amser yn cynnwys pobl sydd mewn perthynas, neu sydd wedi bod mewn perthynas. Nid yw'n gorfforol o angenrheidrwydd, ond mae fel arfer yn achosi i un partner, ac weithiau eu plant, i fyw mewn ofn.

Yn Sir Benfro, mae'r Heddlu, Cymorth i Fenywod, Gwasanaethau Cymdeithasol, Nyrsys, Athrawon, Ymwelwyr Iechyd, Bydwragedd, Nyrsys Ysgol, Swyddogion Cefnogi Disgyblion ac Arweinwyr Ieuenctid wedi cael hyfforddiant proffesiynol a dylai pob un o'r rhain fod yn gallu helpu.

bubbleOs wyt ti'n teimlo'n ofnus yn dy gartref, mae'n bwysig dy fod yn dod o hyd i oedolyn yr wyt yn teimlo'n ddigon hyderus i siarad ag ef/hi. Unwaith y byddi di wedi dod o hyd i'r oedolyn yn dy fywyd, dewisa adeg dawel i ddweud dy bryderon wthi/o.

Os ydyw trais yn y cartref yn digwydd yn dy deulu di, efallai y byddi di'n teimlo'n ddryslyd, yn unig, yn euog, yn anobeithiol neu'n poeni.

Mae'n bwysig dy fod yn rhannu dy bryderon.

Os wyt ti am siarad â llinell gymorth a fydd yn gwrando ac yn deall, ffonia 0808 80 10 800.

Mewn argyfwng, ffonia 999.

 
bottomleft bottomright
 
bottomleftmain     bottomrightmain