|
Mae hwn yn rhybudd cyfreithiol, darllenwch ef cyn i chi fynd i mewn i wefan notyourfault.
Mae eich mynediad at wefan notyourfault yn ddarostyngedig i'r amodau a thelerau canlynol, sy'n dod i rym ar y dyddiad cyntaf y cewch fynediad at wefan notyourfault.
Trwy fynd i mewn i'r wefan, rydych yn cytuno i'r amodau a'r telerau heb unrhyw gymhwyster.
Amodau a Thelerau
1. Mae'r holl hawliau (gan gynnwys hawlfraint, hawliau cronfa ddata a hawliau deallusol eraill) yng ngwefan notyourfault yn eiddo i Fforwm Trais yn y Cartref Dyfed-Powys neu Fforwm Trais yn y Cartref Sir Gaerfyrddin neu wedi eu trwyddedu iddynt, ar bob adeg. Ni ellir copïo unrhyw ddeunydd a geir ar y safle, gan gynnwys testun, delweddau, graffeg, nodau masnach, logos, nodau gwasanaeth a ffilm fer, na'u hatgynhyrchu, eu llwytho oddi ar y wefan, eu postio, trosglwyddo, dosbarthu, storio mewn unrhyw gyfrwng, nac ymyrryd â nhw mewn unrhyw ffordd.
2. Fe fydd Fforwm Trais yn y Cartref Dyfed-Powys yn ymdrechu'n rhesymol i fonitro ac i adolygu trafodaethau, gweithgarwch sgwrsio a phostio, trosglwyddiadau a dialog o fath arall ac, yn gyffredinol, i ddilyn arfer gorau.
Nid ydym yn gallu monitro deunydd yn barhaus.
Ni fydd gan Fforwm Trais yn y Cartref Dyfed-Powys unrhyw gyfrifoldeb nac atebolrwydd o gwbl am unrhyw gamgymeriad, gwybodaeth anghywir, camgynrychiolaeth, difenwad, unrhyw beth sydd wedi ei adael allan, anwiredd, anwedduster, cabledd, deunydd pornograffig, deunydd peryglus nac unrhyw ddeunydd arall sydd wedi'u cynnwys ar y wefan hon, ac mae'n ymwrthod yn benodol â nhw cyhyd ag a ganiateir o dan y gyfraith (gan gynnwys atebolrwydd am niwed o ganlyniad i ddefnyddio'r wefan, neu mewn cysylltiad â hi).
Nid ydyw Fforwm Trais yn y Cartref Dyfed-Powys yn gwarantu y bydd y swyddogaethau yn ei gwefan yn ddi-dor nac yn rhydd o gamgymeriadau, y caiff unrhyw namau eu cywiro na bod y safle neu'r gweinydd sy'n ei darparu yn rhydd o firysau.
Ni ydym yn gallu monitro safleoedd eraill sydd wedi'u cysylltu at wefan notyourfault ac nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb nac atebolrwydd dros unrhyw gynnwys sydd arnynt.
3. a. Ni chewch:
Bostio neu drosglwyddo unrhyw rhai o'r deunydd canlynol ar unrhyw adeg;
- deunydd anweddus, aneglur, di-chwaeth na phornograffig,
- deunydd sy'n anghyfreithlon, yn fygythiol, yn dreisgar, neu'n poenydio,
- deunydd sy'n wrthwynebus ar sail hil, crefydd neu ethnigrwydd
- deunydd sy'n ddifenwol
- deunydd sy'n gableddus
- llythyrau cylch, cynlluniau pyramid neu hysbysebu sydd heb ei wahodd
- unrhyw ddeunydd sy'n torri hawlfreintiau eraill
b. Defnyddio'r wefan at unrhyw ddibenion anghyfreithlon
c. Tarfu ar y wefan neu gyfyngu ar ddefnydd neu fwynhad defnyddiwr arall ohoni
d. Rydym yn cadw'r hawl i derfynu eich mynediad at y wefan, neu efallai y byddwn yn cymryd camau cyfreithiol, os digwydd i chi dorri unrhyw rai o'r rheolau hyn.
4. Fe fydd Fforwm Trais yn y Cartref Dyfed-Powys yn diweddaru'r wefan o bryd i'w gilydd ac, o bosib, yn adolygu'r amodau a'r telerau hyn.
5. lywodraethir yr amodau a'r telerau hyn gan gyfreithiau Cymru a Lloegr ac fe fyddant yn cael eu dadansoddi yn unol â nhw.
Gwybodaeth bellach: neu os hoffech chi wneud cwyn:
Y rhanbarth a awgrymir ar eich cyfer – Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro, Ceredigion, a Phowys.
Wedi'i gyfeirio at y Cydlynydd Trais yn y Cartref.
Sir Gaerfyrddin
5-6 Heol y Frenhines, Caerfyrddin , SA31 1JR.
Sir Benfro
nikkitrimble@pembsdomesticabuseforum.fsnet.co.uk
Ceredigion
Fforwm Cam-drin Domestig Ceredigion
Uned Diogelu’r Cyhoedd
Gorsaf Heddlu Aberaeron
Penmorfa
Aberaeron
Ceredigion
SA46 0PA
Ffon: 01545 571408/07966648963
Ffacs: 01545 574943
natalie.hardess@Dyfed-Powys.pnn.police.uk
Powys
Information Line Powys 0800 138 1642
louisak@powys.gov.uk
|
|