Os ydych eisiau ateb i gwestiwn, cliciwch yma.
Q: Rwy'n 16 oed a dw i ddim yn siwr beth i'w wneud pan fydd Mam a Dad yn cweryla, ddylwn i ymyrryd?
A: Paid byth ag ymyrryd yn y gweryl, oherwydd fe allet gael dy ddal yng nghanol pethau. Chwilia am le diogel i ti a dy frodyr a chwiorydd.
Dangos Ateb / Cyddio Ateb
Q: Ddylwn i alw rhywun pan fydd Dad yn taro Mam?
A: Gofyn i dy Fam i roi cyfrinair i ti, ee: cath, ac felly os ydyw pethau'n mynd allan o reolaeth, fe alli di ffonio'r Heddlu ar linell argyfwng 999.
Dangos Ateb / Cyddio Ateb
Q: Sut ydw i'n cael Mam i adael?
A: Mae'n rhai i dy fam wneud y penderfyniad i adael fel y galli di ei helpu hi trwy wneud yn siwr ei bod hi'n cysylltu â Cymorth i Fenywod neu grwp cymorth arall ac efallai dechrau gwneud cynllun i adael.
Dangos Ateb / Cyddio Ateb
Q: Sut ydw i'n cael y trais i stopio?
A: Mae'n anodd iawn stopio'r trais, mae'n rhaid i'r person sy'n gyfrifol am y trais sylweddoli bod ymddygiad o'r fath yn anghywir ac yn annerbyniol. Fe all ymyrraeth gan yr Heddlu helpu, ond mae'n rhaid i'r dioddefwr wybod hefyd mai dim eu bai nhw yw'r trais.
Dangos Ateb / Cyddio Ateb
Q: Mae fy nghariad yn feddiangar iawn ac yn fy nharo i pan mae'n feddw. Rwy'n siwr mai fi sy'n gwneud iddo fy nharo oherwydd rwy'n ei gythruddo?
A: Nid ti sydd ar fai am ymddygiad dy gariad. Mae'n rhaid iddo sylweddoli ei fod yn ymddwyn yn anghywir. Os nad ydyw'n gallu, efallai y dylet orffen y berthynas, oherwydd fe allai'r trais fynd yn waeth.
Dangos Ateb / Cyddio Ateb
Q: Mae fy ffrind wedi dweud wrthaf am y trais y mae'n ei ddioddef gartref. Ddylwn i gadw'r gyfrinach?
: Na, paid byth ag addo cadw cyfrinach, oherwydd fe allai fod mewn perygl difrifol. Siarada ag Athro yr wyt yn ymddiried ynddo/i neu Nyrs yr Ysgol. Ceisia gael dy ffrind i siarad â nhw. Rhanna hyn gyda dy riant/rieni oherwydd mae cadw cyfrinach yn gallu bod yn faich trwm.
Dangos Ateb / Cyddio Ateb
Q: Mae'r trais yn fy nheulu'n mynd yn waeth. Mae Dad yn disgwyl i mi ochri gydag ef, neu fe fydda i'n cael niwed hefyd. Beth allai wneud?
A: Mae Trais yn ymwneud â Phwer a Rheolaeth, ac nid ydyw'n ddim byd i wneud â maint neu gryfder. Ceisia annog dy Dad i gael help a chyngor.
Dangos Ateb / Cyddio Ateb
Q: Mae'r trais yn fy nheulu'n mynd yn waeth. Mae Dad yn disgwyl i mi ochri gydag ef, neu fe fydda i'n cael niwed hefyd. Beth allai wneud?
A: Ceisia ddod o hyd i fan diogel, ceisia aros allan o'r ffordd, cysyllta â llinell gymorth am gyngor pellach neu ffonia'r Heddlu os oes aelod o'r teulu mewn perygl.
Dangos Ateb / Cyddio Ateb
Q: Mae'r sefyllfa'n codi cywilydd arnai oherwydd mae'r Heddlu'n dod i fy nghartref drwy'r amser. Mae pawb yn yr ysgol yn gwybod.
A: Mae trais yn y cartref yn digwydd i lawer o deuluoedd ac mae'r Heddlu'n cynnig gwasanaeth i helpu dy deulu. Ceisia feddwl yn bositif.
Dangos Ateb / Cyddio Ateb
Q: Mae ffrind i'r teulu yn fy ngham-drin ond alla i ddim dweud wrth Mam oherwydd fydd hi ddim yn fe nghredu i. Beth allai wneud?
A: Cysyllta â'r Heddlu a siarada ag Athro neu Nyrs Ysgol, ac fe fydd rhywun yn gallu dy helpu.
Dangos Ateb / Cyddio Ateb
Q: Mae fy nghariad newydd wedi fy nharo i yr wythnos ddiwethaf. Mae wedi dweud ei fod yn flin ac na fydd yn digwydd eto. Beth ddylwn i wneud?
A: Mae'n debygol iawn y bydd yn dy daro di eto, oherwydd mae'r ymddygiad yma'n ymddygiad mae person yn ei ddysgu. Mae'n well i ti orffen y berthynas cyn i'r berthynas fynd yn rhy ddifrifol. Fe fydd y trais yn gwaethygu gydag amser.
Dangos Ateb / Cyddio Ateb |