HomeslashQuestions AnswersslashIdeas AdviceslashPolicyslashPolicy Page
events
cymraegslashenglish
 
topleftgraphic   toprightgraphic
Pembrokeshire Domestic Abuse Forum  

Help With Domestic Abuse in Swansea

bubbleimageYn Abertawe, mae gennym Strategaeth Cam-drin yn y Cartref Abertawe Mwy Diogel. Mae hyn yn golygu bod pawb yn gweithio gyda'i gilydd i roi diwedd ar gam-drin yn y cartref.

Mae Fforwm Cam-drin yn y Cartref Abertawe yn grwp sy'n cynnwys llawer o asiantaethau y gall plant, pobl ifanc neu oedolion gysylltu â nhw am gymorth gyda cham-drin yn y cartref.

Beth bynnag sydd wedi digwydd neu ba bynnag ffordd yr ydych yn ymdopi, nid arnoch chi mai'r bai. Does dim hawl gan unrhyw un i'ch cam-drin. Does dim rhaid i chi barhau ar eich pen eich hun.

Y peth pwysig yw: dweud wrth rywun.

Mae Uned Cam-drin yn y Cartref Heddlu Abertawe yn trin cam-drin yn y cartref yn ddifrifol iawn a byddant yn eich helpu. Bydd Swyddogion Benyw Cam-drin yn y Cartref yn edrych ar y risg i chi ac aelodau eraill eich teulu. Gallwch siarad am eich sefyllfa. Mae'r heddlu yno i roi diwedd ar y cam-drin, gwrando arnoch, eich amddiffyn a'ch helpu i gael cefnogaeth. Ffoniwch 323232 neu 999 mewn argyfwng.

Os hoffech siarad â rhywun arall:

Yn yr Ysgol ewch at:

• Athro/Athrawes Ysgol
• Swyddog Lles Addysg
• Athro/Athrawes dros Amddiffyn Plant

Gwasanaethau Cymdeithasol:
• Gwasanaethau Plant - 635700
• Tîm Dyletswydd Brys (y tu allan i oriau swyddfa) - 775501

Asiantaethau Gwirfoddol:
• Cymorth i Fenywod Abertawe – 644683
• BAWSO (Black Association of Women Step Out Ltd) – 642003 Mae'r asiantaethau cam-drin yn y cartref arbenigol hyn yn gwrando, rhoi cyngor a chymorth ymarferol a gallant ddarparu llety diogel.

Mwy o bobl yn Abertawe sy'n gallu helpu:

bubbleimageDinas a Sir Abertawe:

• I Gael Gwybod gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth ar gyfer pobl ifanc rhwng 11 a 25 oed – 484010 neu anfonwch neges destun at 07930328607 neu galwch heibio: 47 Ffordd y Brenin, Abertawe
• Opsiynau Tai – 533100 neu 636000 y tu allan i oriau swyddfa.
• Uned Cefnogi Cymdogaeth – trwy'r heddlu, gellir gosod larwm cam-drin yn y cartref er mwyn i chi fod yn fwy diogel yn eich cartref.
• Uned Cefnogi Tenantiaid - 774367

Asiantaethau Gwirfoddol
• MEWN (Rhwydwaith Menywod o Leiafrifoedd Ethnig) – 467722 • Cymdeithas Tai Hafan – 315980 (Mae Tai Hafan yn cynnal rhaglen ystafell ddosbarth ar gam-drin yn y cartref yn Abertawe ac mewn ardaloedd eraill)
• NSPCC (Cymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant) – 456545
• Prosiect Cyffuriau Abertawe - 472002 • Cyngor Gorllewin Morgannwg ar Gamddefnyddio Alcohol a Chyffuriau- 472519
• Cefnogaeth i Ddioddefwyr – 543653 neu 543654

bubbleimage3Gwefannau a rhifau rhadffôn:

Llinell Gymorth Cam-drin yn y Cartref Cymru – 0808 80 10 800
ChildLine - 0800 1111 – www.childline.org.uk
www.broken-rainbow.org.uk 08452 60 44 60 dydd Llun i ddydd Gwener 9am-1pm a 2pm-5pm. Atebir y galwadau gan staff Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol. Cyllidir y gwasanaeth hwn gan y Swyddfa Gartref.

Os ydych yn ofni y gallech gam-drin rhywun, gallwch ffonio:
Respect - 0845 122 8609

Daliwch ati nes i chi gael y cymorth sydd ei angen arnoch. Peidiwch â rhoi'r gorau.

 
bottomleft bottomright
 
bottomleftmain     bottomrightmain
spacer
Home :: C&A :: Syniadau & Cyngor :: Tudalen Polisi :: Sir Benfro :: Sir Gaerfyrddin :: Ceredigion :: Powys
Copyright 2004 Dyfed Powys Regional Domestic Abuse Forum